Bruce/Anne,
Diolch am y sylwadau. Mae o yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen. Ar ol pendroni
ac edrych ar ambell wefan a ffeindiais drwy Google (drwy roi "slender
groundhopper" i mewn yn lle "groundhopper" er mwyn osgoi'r ffans peldroed
Almaenaidd), rhoddais "sbonciwr main" er gwell neu er gwaeth. Ond dwi heb
ryddhau'r cyfieithiad eto felly does dim byd yn derfynol!
Geraint
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 21, 2004 2:35 PM
Subject: Re: slender groundhopper
Dyma sylwadau Bruce:
Nac yn yr un geiriadur arall sydd gennyf. Cymeraf mai pryf o ryw fath ydyw.
Ai math o sioncyn y gwair? Os felly, "sioncyn main"? Pa beth yw ei enw
Lladin?
*Ond* 'rwyf wedi cael goleuni pellach ers iddo fynd allan, drwy Google
Advanced Search ["slender groundhopper" -football (English only)]. "Tetrix
subulata" yw'r enw Lladin. Mae'n un o'r Orthoptera, h.y. nid yn
"Grasshopper", ond o'r un teulu. Mae sawl cyfeiriad, felly holaf Bruce eto
pan ddaw yn ol (cwpl o oriau).
Ann
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 21, 2004 10:17 AM
Subject: slender groundhopper
Does dim son am groundhoppers yng ngeiriadur Bruce - help plis!
Message has been scanned by Webshield
Message has been scanned by Webshield
|