Os nad oes ymadrodd Cymraeg yn bod, beth am:
1. 'colli'r hen, cofleidio'r newydd/croeso i'r newydd/croesawu'r newydd'
2. 'anghofio'r hen, cofleidio'r newydd/croeso i'r newydd/croesawu'r newydd'
3. 'allan â'r hen, cofleidio'r newydd/croeso i'r newydd/croesawu'r newydd'
4. 'troi cefn ar yr hen, cofleidio'r newydd/croeso i'r newydd/croesawu'r
newydd'
5. 'gollwng gafael ar yr hen, cofleidio'r newydd' (chwarae ar ddyfyniad o
waith Ben Bowen - gw. Y Flodeugerdd o Ddyfyniadau Cymraeg)
6. 'ffarwél/canu'n iach i'r hen, croeso i'r newydd/croesawu'r newydd
Amrywiadau ar yr uchod fyddai 'anghofier yr hen, henffych/cofleidier y
newydd', ...' ac ati.
Wn i ddim a wnaiff y rhain daro deuddeg yn y cyd-destun dan sylw ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Bethan Evans" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 20, 2004 3:24 PM
Subject: Out with the old in with the new
> Oes rhywun yn gwybod am ymadrodd Cymraeg sy'n cyfateb i'r uchod?
>
>
> Diolch ymlaen llaw!
>
> Bethan
>
>
|