Rydw i'n cyfieithu darn sy'n ymwneud a seicoleg plant yn eu harddegau, ac
rydw i wedi dod ar draws y gair uchod, a ddefnyddwyd gan y seicolegydd
James Marcia.
Yn y cyd-destun 'ma, mae 'foreclosure'yn golygu:
'cyflwr lle mae'r person ifanc wedi gwneud ymrwymiad (i ryw achos neu
berson)ac mae'n ei amddiffyn yn gryf heb ymchwilio i neu ystyried unrhyw
ddewisiadau eraill.'
Unrhyw syniadau? Rhaid i mi gyfaddef fy mod i ar goll gyda hwn!!
|