** APOLOGIES FOR CROSS POSTING **
** Please scroll down for a Welsh version **
Dear Colleagues
The Cyfrwng 2004 conference will be held at the University of
Wales Bangor between the 16-18th April 2004. The conference aims to
encourage discussion of media in Wales and to bridge the divide between the
media industry and the further and higher education sector in Wales.
A varied and interesting programme has been drawn up for the conference and
includes sessions as diverse as a keynote lecture on the future of media in
Wales by Professor Kevin Williams; a discussion on the recent interest
shown by Bollywood in Wales; a keynote lecture on the Digital Revolution by
Michael Rosenblum, New York; a celebration of the film Zulu on its 40th
anniversary; presentations investigating landscape, experience and identity
and their relationship with performance and a special opportunity to be in
the company of renowned director, Ken Russell.
The full conference programme, registration details and further information
is posted at www.cyfrwng.com
A warm welcome to you all to join us at Bangor!
**********************************************************************
Annwyl gydweithwyr
Cynhelir Cynhadledd Cyfrwng 2004 ym Mhrifysgol Cymru Bangor rhwng 16-18
Ebrill 2004. Nod y gynhadledd yw hyrwyddo trafodaeth sylweddol ar y
cyfryngau yng Nghymru a phontio'r gwagle rhwng y diwydiant cyfryngau a byd
addysg uwch a phellach yng Nghymru.
Mae rhaglen hynod ddiddorol ac amrywiol wedi ei threfnu ar gyfer y
gynhadledd gan gynnwys darlith ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru gan yr
Athro Kevin Williams; trafodaeth ar ddiddordeb diweddar Bollywood yng
Nghymru; darlith ar y Chwyldro Digidol gan Michael Rosenblum o Efrog
Newydd; dathliad o'r ffilm Zulu yn 40 oed; cyflwyniadau amrywiol yn
archwilio perthynas tirwedd, profiad a hunaniaeth â pherfformio a chyfle
arbennig i fod yng nghwmni'r cyfarwyddwr adnabyddus, Ken Russell.
Mae'r raglen gyflawn, manylion cofrestru a gwybodaeth bellach i'w cael ar y
wefan www.cyfrwng.com
Croeso mawr i chi ymuno â ni ym Mangor!
--
Dr Gwenno Ffrancon
Darlithydd Ffilm
Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau
Prifysgol Cymru Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
01248 383215
[log in to unmask]
------
Dr Gwenno Ffrancon
Film Lecturer
Dept. of Communication and Media
University of Wales Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
01248 383215
[log in to unmask]
|