Dwi wrthi'n cyfieithu dogfen enfawr i Ymddiriedolaeth Archaeoleg ac mae'n
profi i fod yn dipyn o ben tost! Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau
ar y canlynol:
Severn Levels / Gwent Levels - Gwastadoedd yw'r rhain?
A oes unrhyw un yn gwybod am enw Cymraeg i'r Cotswolds?
ac yn olaf threat-led projects - dwi ddim yn rhy hapus gyda "dan
fygythiad" gan fod y term hwnnw'n golygu "projects which are under threat"
yn hytrach na phrosiectau sydd wedi'u sefydlu o ganlyniad i fod dan
fygythiad.
Diolch ymlaen llaw,
Saran
|