Mae cysill yn cywiro 'oni bai bod' gan awgrymu 'oni bai fod' hefyd.
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Richard Crowe
Sent: 01 December 2003 13:54
To: [log in to unmask]
Subject: oni bai
Beth sy'n gywir: "oni bai fod" ynteu " "oni bai bod"? Neu a yw hi'n
dibynnu? Mae enghr. yn PWT t. 155, "Oni bai bod un ohonoch chi am fynd, fe
af i." Ond mae Melville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg t. 185, yn
dweud bod 'bod' yn treiglo yn y safle hwn e.e. "yr hwn beth sydd agos
amhosibl yw gredu, oni bai fod anirif o destion yn ysbysu fod hynny yn
wir". Mae dwy enghr. yn GPC d.g oni - oni bai, y ddwy wedi'u treiglo'n
feddal.
Yn ôl Google, mae 5,200 enghr. o "oni bai bod", a 4,170 enghr. o "oni bai
fod". Ar wefan y Cynulliad, mae "1,995 2 enhgr. o "oni bai bod" a 1,927
o "oni bai fod". Ar wefan yr HMSO, mae 78 enghr. o "oni bai bod" a 25
enghr. o "oni bai fod".
|