Tybed a oes 'na rywrai yn y grwp all fy helpu efo fy ngwaith cartref - neu
mi fydda i mewn picil!
Awn ni bob wythnos i ddosbarth Enwau Lleoedd, ond y dyddiau hyn er mwyn
cyfiawnhau'r fath bethau mae rhaid inni gyflwyno rhyw waith ar ddiwedd tymor
(sef dydd Iau). 'Rwyf wedi bod ag awydd ers blynyddoedd fynd ar ol rhyw
bwnc arbennig, ond prin 'rwyf wedi cael munud i wneud hynny'r tymor yma, ac
efallai byddai ychydig o ymchwil yn y maes yma'n rhoi pleser i rai ohonoch!
Mae gen i chwilen yn fy mhen ers gweld nifer o dafarndai o'r enw "The
Eagles" yn newid eu henw i "Yr Eryrod" nad oes angen gwneud hynny o gwbl, yn
arbennig gan i Ifor Owen ddweud mai "Eggles" oedd ynganiad y Cymry o enw
tafarn Llanuwchllyn 'Rwyf wedi sylwi yn Llanuwchllyn, Llanrwst a Rhaeadr, a
rhywle ar y Gororau (Much Wenlock?) mai'r adeilad drws nesaf i'r tafarn yw'r
eglwys. Yn yr un modd, mae "Eagles Yard" drws nesaf i'r eglwys ym
Machynlleth. A yw'n bosibl mai "Tafarn yr Eglwys" yw'r rhain i gyd? Fe
welir "The Church" gerllaw'r eglwys yn Llwydlo.
Mae Bruce yn anghytuno, gan ddweud (1) ei bod hi'n naturiol i hen dafarn fod
yn agos at ganol y pentref a'r eglwys, a (2) mai "Ty'n Llan" oedd yr enw
naturiol ar gyfer "Church Inn".
'Rwyf wedi edrych yn frysiog trwy'r rhestr o gyfeiriadau a chodau post sydd
gan Swyddfa'r Post", a gweld nifer fawr o "Eagle(s)" - tafarndai, gwestai
ayb yng Nhymru - llawer mwy, byddwn i'n dweud, nac sydd yn y llyfr ar gyfer
Gorllewin Lloegr, ond nid wyf wedi cael amser i edrych am "The Church" na
"Tyn y Llan", na chymharu'r canlyniadau a^ Lloegr mewn modd gwyddonol.
Felly, gofynnaf ichi, os ydych chi'n gyfarwydd a thafarn felly, a fyddwch
chi cystal ag anfon ataf (cyn dydd Iau os yn bosibl, ond hoffwn glywed beth
bynnag) i roi'r union enw (eagle/eagles/eagle and child/Inn/hotel/ayb) a'r
dref/pentref, pa mor agos at yr eglwys, yn fras, y mae'r adeilad? - oes 'na
adeiladau eraill rhyngddynt ai peidio? A ydych chi'n gwybod unrhywbeth
ynghylch hanes/oed yr adeilad a tharddiad yr enw? Byddai'n help, mae'n
debyg, gael manylion ynghylch tafarndai sy'n dwyn yr enwau eraill hefyd.
Gwn y bydd hyn yn "draethawd" ymchwil anfoddhaol iawn, ond bydd o leiaf yn
dangos mod i wedi bod yn gwneud *rhwybeth*, ac efallai caf gyfle ar ol
ymddeol (?!) i fynd at y bragwyr ayb a gwneud y job yn iawn.
Llawer o ddiolch - ac iechyd da!
Ann
Message has been scanned by Webshield
|