Rwy newydd fod yn sgwrsio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru sy'n gyfrifol am
ddynodi enwau'r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mi
geisia i grynhoi'r pwyntiau pethnasol isod.
1. Wrth ddynodi enw safle, maen nhw'n ceisio defnyddio enw sy'n bod
eisoes, ac yn ymgynghori gyda'r gymuned leol yn ei gylch. Maen nhw'n
ceisio defnyddio enwau Cymraeg os oes rhai ar gael, ond mewn rhai
ardaloedd e.e. yn nwyrain Gwent, dim ond enwau Saesneg sydd yn bod. Os
mai enw Saesneg sydd iddo e.e. Brockwells, mae'n nhw ceisio cadw unrhyw
air disgrifiadol sydd gydag ef (yn dynodi cae, chwarel ac ati) yn yr un
iaith.
2. Dydyn nhw ddim yn ffafrio cyfeithu enwau o'r naill iaith i'r llall.
Gyda rhai eithriadau, dim ond un enw (ym mha iaith bynnag) sydd ar safle.
3. Wrth ddynodi safleoedd newydd, maen nhw'n defnyddio gwasanaeth yr
Athro Hywel Wyn Owen o'r Ganolfan Enwau Lleoedd yma ym Mangor i sicrhau
fod y ffurfiau yn gywir ac yn Gymraeg os oes modd.
4. Os oes gan aelodau'r cylch ymholiad ynhgylch enw safle o ddiddordeb
gwyddonol arbennig, gallant ffonio Lyn Rees yn y Cyngor Cefn Gwlad ym
Mangor yn uniongyrchol i ofyn cyngor. Ei rhif ffon yw 01248 385559.
5. O ran yr enw Brockwells Meadow, nid oes ffurf Gymraeg yn cael ei
hargymell ar ei gyfer.
Delyth
Ysgrifennodd Geraint Løvgreen:
> Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - mi wnes i feddwl am Gae Brochfael,
> ond wedi methu dod o hyd i ddim byd ar Google, felly dwi wedi rhoi Cae
> Brockwell am rwan i fod yn saff (os na wyr rhywun yn well...)
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, December 03, 2003 5:11 PM
> Subject: Re: Brockwells Meadow
>
>
> Beth ydyw? Pentref? Cae? Swnio fel Brochfael?
> Bruce
> ----- Original Message -----
> From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, December 03, 2003 2:46 PM
> Subject: Brockwells Meadow
>
>
> ...yn Sir Fynwy.
>
> ?
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
> Message has been scanned by Webshield
--
Delyth Prys
e-Gymraeg / e-Welsh
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru,Bangor /
University of Wales,Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
[log in to unmask]
+44 (0)1248 38 2800
|