Trafodais hyn gyda Bruce yn ein cynhadledd yng Ngregynog pa ddiwrnod ac fe
gadarnhaodd mai 'ym myd addysg' sy'n gywir.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 18, 2003 12:01 PM
Subject: Re: centimedr
Da iawn Elin!
Ar yr ail bwynt, mae pethau fel "mae hi'n gweithio yn y byd addysg" yn swnio
ac yn edrych yn od i mi hefyd, ond maen nhw o'n cwmpas ni ym mhobman.
Rwy'n *credu* mai "gweithio ym myd addysg" sy'n iawn, ond beth yw barn y
bobl?
----- Original Message -----
From: "Elin Meek" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 18, 2003 11:13 AM
Subject: Re: centimedr
Sori, rwy'n anghytuno'n llwyr â 'Cyfieithydd' - 'c' sydd ei hangen fan hyn.
Fyddai 'sm' fel talfyriad ddim yn gwneud synnwyr o gwbl - 'cm' sy'n gywir,
ac mae centimetr hefyd yn dangos y cysylltiad â 'cant' i blant.
Y Termiadur Ysgol yw'r safon fan hyn, defnyddier 'centimetr'
Dyna ddiwedd y bregeth am heddiw, os nad oes neb eisiau dechrau gohebiaeth
am duedd erchyll Adran Chwaraeon Radio Cymru i ddweud 'Y Cwpan Carling' 'Y
Gynghrair Nationwide' 'Y Cwpan Heiniken'. Beth yw'r cyfeiriad e-bost er
mwyn cwyno? Dwi'n gymharol oddefgar fel arfer, ond mae'r arfer 'ma'n fy
hala i'n benwan.
|