> A gweinydd ydi "server", ynde?
> Ydi "serve" a "host" yn golygu'r un peth?
Mae'r diffiniad o 'serve' yn eitha clir - dyma lle mae gweinydd
unigol yn danfon data i nifer o glientiaid (cyfrifiaduron personol)
Mae 'host' yn fwy amwys nawr ond yn y bon mae'n golygu unrhyw
gyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu i'r rhyngrwyd boed e'n weinydd neu
glient.
Yn nyddiau cynnar y we roedd pobl yn creu tudalennau ac yna'n datgan
"we are hosting a website on our server". Felly mi roedd yr ystyr yr
un fath a "we are hosting a conference" neu "we are hosting a party".
Dyw hyn dal ddim yn cynnig y term perffaith ond falle fydd hwn yn
ysgogi syniadau. Mi allwn ni roi diffiniad newydd i 'llety' os mynnwn
ni ond dyw e ddim byd tebyg i gynnig gwely/stafell dros nos i rywun.
|