Ww- dw i'n licio gweletya - ond efallai y byddai'r ystyr yn gliriach o
ysgrifennu "gwe-letya"
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
Løvgreen
Sent: 17 December 2003 09:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hosting - DEDLEIN!
Wel, dyma drafodaeth ddifyr.
Mi wnes i drio rhoi "Lletya" yn y ddogfen (mae'n ymddangos fel pennawd
ar ei
ben ei hun) ond wrth ddarllen y peth yn ôl roeddwn i'n dychmygu fy hun
yn
darllen y ddogfen heb wybod beth oedd y Saesneg gwreiddiol, a fyddwn i
ddim
wedi deall mai "hosting" oedd dan sylw. Dyna pam y codais i'r cwestiwn.
Rwan, mae'n rhaid imi anfon y cyfieithiad yn ôl heddiw, felly bydd raid
i mi
wneud penderfyniad.
Er ei fod yn groes i'r graen, dwi'n rhyw feddwl mai "lletya" y bydd raid
imi
ddeud - gan ei fod o o leiaf yn cael ei ddefnyddio gan rai pobl ac nad
oes
amwysedd i'r term yn y cyd-destun hwnnw. Mae'n amlwg fod "cynnal" a
"gweini"
yn rhy amwys. FELLY, os nad oes gan neb gynnig ysbrydoledig heddiw, mae
gen
i ofn mai "lletya" fydd yn ennill y dydd!
Geraint
(Beth am "gweletya"??)
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 16, 2003 11:18 PM
Subject: Re: hosting
Cytunaf â'r sylwadau am 'Safwe' - nid yw wedi ennill ei le fel gair
safonol - ond nid yw'r ffaith bod rhai'n ei ddefnyddio'n golygu llawer,
nag
ychwaith y ffaith bod pobl yn penderfynu defnyddio'r gair 'lletya' yn
hytrach na gair arall. Mae'n amlwg bod ystyr 'lletya' wedi ehangu (ym
marn
y rhai sy'n ei ddefnyddio) i gynnwys cysyniad nad oedd yn bodoli ychydig
o
flynyddoedd yn ôl ac mae'r ystyr yn gweddu'n iawn. Nid yw'n ddigon da i
ddisgrifio'r bobl a gyfieithodd neu a luniodd y wefannau yn y rhestr fel
defaid, buaswn i'n tybio bod llawer ohonynt yn gyfarwydd iawn â maes
technoleg gwybodaeth (yn enwedig y rhai oedd yn hysbysebu eu
gwasanaethau
rhyngrwyd eu hunain).
O ran 'diktat' ac 'akadedmiks' - gwn ei bod yn ffasiynol lladd ar bobl
academaidd fel petaen nhw'n byw mewn rhyw fyd arall, ond dw i'n credu
bod
hynny'n annheg a does neb yn ceisio gorfodi defnyddio term ar neb arall
ar y
rhestr hon ond rhoi dadleuon o blaid neu'n erbyn rhyw derm ac nid yw'r
ffaith bod rhywun yn gweithio mewn prifysgol (neu academi arall) yn
berthnasol i'r drafodaeth!
|