Ond sylwer ar nodyn 6.91c (td. 469) yn 'Gramadeg y Gymraeg' Peter Wynn, lle
mae'n trafod ac yn gwrthod dadleuon yr Athro T J Morgan, a chofier hefyd fod
TJ, yn ei ragymadrodd i 'Y Treigladau a'u Cystrawen', yn dweud ei fod, erbyn
i'r llyfr hwnnw fynd i'r wasg, yn anghytuno a^ pheth o'i gynnwys! (A bod yn
deg, roedd e wedi llunio'r llyfr dros gyfnod y Rhyfel, ac roedd hi'n rhy
hwyr i'w newid.)
Os yw treiglo 'bod' ar o^l 'oni bai' yn achos o ddilyn y rheol hynafol bod
angen treiglo ar o^l ffurfiau'r ferf 'bod', fyddwn i ddim yn treiglo.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 01, 2003 2:26 PM
Subject: Re: oni bai
Mae esboniad eithaf cynhwysfawr yn y Treigladau a'u Cystrawen gan T.J.
Morgan.
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 01, 2003 1:57 PM
Subject: Re: oni bai
Oni bai bod, dwi'n meddwl. Oes rheswm dros dreiglo?
-----Original Message-----
From: Richard Crowe [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 01 December 2003 13:54
To: [log in to unmask]
Subject: oni bai
Beth sy'n gywir: "oni bai fod" ynteu " "oni bai bod"? Neu a yw hi'n
dibynnu? Mae enghr. yn PWT t. 155, "Oni bai bod un ohonoch chi am fynd, fe
af i." Ond mae Melville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg t. 185, yn
dweud bod 'bod' yn treiglo yn y safle hwn e.e. "yr hwn beth sydd agos
amhosibl yw gredu, oni bai fod anirif o destion yn ysbysu fod hynny yn
wir". Mae dwy enghr. yn GPC d.g oni - oni bai, y ddwy wedi'u treiglo'n
feddal.
Yn ôl Google, mae 5,200 enghr. o "oni bai bod", a 4,170 enghr. o "oni bai
fod". Ar wefan y Cynulliad, mae "1,995 2 enhgr. o "oni bai bod" a 1,927
o "oni bai fod". Ar wefan yr HMSO, mae 78 enghr. o "oni bai bod" a 25
enghr. o "oni bai fod".
|