> flynyddoedd yn ôl ac mae'r ystyr yn gweddu'n iawn. Nid yw'n ddigon da i
> ddisgrifio'r bobl a gyfieithodd neu a luniodd y wefannau yn y rhestr fel
> defaid, buaswn i'n tybio bod llawer ohonynt yn gyfarwydd iawn â maes
> technoleg gwybodaeth (yn enwedig y rhai oedd yn hysbysebu eu gwasanaethau
> rhyngrwyd eu hunain).
Yn anffodus dwi'n gwybod sut mae cwmniau TG yn paratoi deunydd i'r
cyhoedd (drwy weithio i un fy hyn). Mae'r adran farchnata yn gofyn i'r
'welsh speaker in the office', cael un ateb, yna mae nhw'n edrych ar y
we a cael tri ateb. Yn mae'n nhw'n ffonio Llinell Gyswllt BYIG (a
mae'n rhaid fod nhw'n iawn am ei fod yn *swyddogol*.
Mae Cymru mor fach fel fod barn unigolyn ar gyfieithiad (mewn safle
uchel e.g. llywodraeth, cwango neu'r cyfryngau) yn gallu dylanwadu yr
hyn mae miloedd eraill yn ei ddefnyddio.
> O ran 'diktat' ac 'akadedmiks' - gwn ei bod yn ffasiynol lladd ar bobl
> academaidd fel petaen nhw'n byw mewn rhyw fyd arall,
Mae rhywun ar fin creu Academie de Galles yng Nghymru lle mae geiriau
yn cael ei bathu mewn labordy academaidd ar gyfer defnydd 'swyddogol',
tra fod rhan fwya o bobl cyffredin yn defnyddio geiriau gwahanol. Y
peryg yw mai llurgunio geiriau saesneg y fyddan nhw, pan fod awdurdod
canolog yn deddfu ar ddefnydd iaith.
Mae'r Ffrancwyr yn dweud 'email' er mai 'courriel' yw'r gair
swyddogol. Mae'r Gymraeg wedi bod yn lwcus yn y faith fod termau
(technolegol yn arbennig) wedi eu bathu drwy ddefnydd naturiol gan
bobl sydd yn trin y termau saesneg bob dydd.
|