Mae Uned E-Gymraeg Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Cymru, Bangor newydd
ddechrau gweithio ar brosiect i gynhyrchu cronfa ddata Gymraeg/Saesneg
safonol o dermau a ddefnyddir mewn gweinyddiaeth gyhoeddus ym maes Technoleg
Gwybodaeth a’r We.
Gan ein bod newydd ddechrau hel deunyddiau perthnasol, dyma adael i chi
wybod y byddem yn falch iawn o gael gwybod gan aelodau WELSH-TERMAU-CYMRAEG
am unrhyw eirfâu a rhestri termau TG yr ydych yn ymwybodol ohonyn nhw eisoes.
Cyfeiriad e-bost y prosiect ydi [log in to unmask]
Diolch i chi.
Owain Lloyd Davies.
|