Rwy newydd gael ymholiad am y term hwn.
Yr ystyr yw ffordd i roi arian mewn bagiau i mewn i'r banc yn gyflym.
Awgrymais 'banc cyflym' gan ddilyn yr egwyddor 'pam chwilio am derm
cymhleth pan fo term syml yn gwneud y tro'.
Ond rhag ofn bod 'banc cyflym' yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cysyniad
arall, dyma ofyn i'r cylch a oes rhywun wedi dod ar ei draws mewn
cyd-destun gwahanol, neu hyd yn oed eisoes wedi'i ddefnyddio am
'fastbank', neu wedi clywed term gwahanol yn cael ei ddefnyddio.
Chwiliais y we gyda chymorth Gooogle, ond doedd dim enghraifft o 'banc
cyflym' i weld yno.
Delyth
D.Prys [log in to unmask]
|