Mae cyfeiriad atynt, dw i'n meddwl, ar
http://www.bopcris.ac.uk/bop1917/ref689.html
Yma, enw'r corff yw'r "Commission of Enquiry into Industrial Unrest", ac mae
gan yr erthygl gryn dipyn i'w ddweud ynhgylch y Welsh Commissioners - "The
report on Wales was exceptional both in form and content". Caf yr argraff
fod hyn i gyd tua ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf (siwr y bydd cyfrannwyr eraill
yn well haneswyr na fi!), felly ni allaf ddychmygu y byddai teitlau Cymraeg
Swyddogol gan y Comisiwn na'i gomisiynwyr.
Ceir y geiriau hyn ar dudalen o safle'r Llyfrgell Genedlaethol, "Ymgyrchu!":
http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Llafur/1926/index.htm
"Yr 'Aflonyddwch Mawr' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r blynyddoedd
rhwng 1908 a 1914, pan welwyd sawl achos o aflonyddwch diwydiannol yng
Nghymru a Phrydain.".
Gwelais sawl cyfeiriad ar Google at "aflonyddwch diwydiannol", hyd yn oed
mewn cwestiynau arholiad ynghylch y cyfnod, felly cymeraf mai dyna yw'r term
cywir, ond dim un cyfeiriad gyda phriflythrennau.
Ann
----- Original Message -----
From: "Margaret Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 25, 2003 9:42 PM
Subject: help!
Beth yw'r cyfieithiad cywir i " The Welsh panel of the Commission on
Industrial Unrest" o.g.y.dd?
Diolch
---------------------------------
Want to chat instantly with your online friends?Get the FREE Yahoo!Messenger
Message has been scanned by Webshield
Message has been scanned by Webshield
|