Diolch bawb. Rwy'n derbyn na fyddai 'cofben' yn hollol ddelfrydol, ac ma
pwynt Garmon yn hollol deg, ond y drwg gyda 'cofbin' yw bod 'memory pin'
mewn bod ishws:
"This is a test of the Boundary Scan pin to memory pin interconnections."
http://www.accelonix.co.uk/pcb/bsintro.html
"upper and lower memory pin is soldered."
http://member.nifty.ne.jp/ROLLY/pc110/mem1_e.html
O roi 'memory pen' yng Ngwgl, ceir bagad o gyfeiriadau at ... Pen Drives.
Felly efallai taw 'cofben' fyddai'r gair gorau. Ac efallai y gwnaiff y gair
ddrysu rhywrai ond, wedyn, mae'r cyd-destun yn golygu ein bod ni'n weddol
siwr beth sy'n digwydd pan fo rhywun yn gweud "mae fy mhen wedi torri" neu
"wi wedi rhoi fy mhen i lawr rhywle ar y ddesg ac nawr rwi'n ffili deg â'i
ffeindio".
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 03, 2003 8:00 PM
Subject: Re: Pen Drive
Yn sgîl eglurhad Dafydd, fyddai 'disg' ddim yn gyfieithiad cywir felly. Rwyf
wedi bod yn edrych ar y We fy hun i ddysgu mwy am y 'Pen Drive' ac i weld i
ba raddau y mae hwn yn nod masnach. Hyd y gwelaf mae mwy nag un cwmni'n
hysbysebu eu cynnyrch eu hunain gan ei alw'n 'Pen Drive' ac mae un cwmni'n
defnyddio'r ffurf 'PenDrive'. Ond yn y testun dan sylw mae'n anodd gweld ai
gwall teipio yw hwn ynteu a yw PenDrive o'i ysgrifennu fel hyn yn nod
masnach gan un cwmni. Os yw'n nod masnach, yna mae lle i ddadlau nad oes
angen/na ddylid ei gyfieithu, ond os nad nod masnach mohono, byddwn i'n
tybio bod y term Saesneg felly'n ddisgrifiad llythrennol ac y gellid
defnyddio rhywbeth tebyg yn Gymraeg, e.e. drwy dderbyn awgrym Dafydd a dweud
'Cof Pin'. Rwy'n cynnig 'pin' yn hytrach na 'pen' oherwydd yr ystyr arall
amlwg sydd i 'pen' yn enwedig pan fo 'cof' yn cael ei ddefnyddio dan yr un
gwynt!
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
|