Mi ddylwn i fod wedi nodi hefyd fod y prosiect yma yn cael ei ariannu gan
Fwrdd yr Iaith.
I egluro ychydig ar nod y gwaith arfaethedig, dyma ddyfynnu’r brîff
gwreiddiol: “Nid bathu termau o’r newydd yw diben y prosiect safoni termau,
ond casglu ynghyd dermau sydd eisoes yn bodoli ac sydd wedi eu safoni gan
sefydliadau / grwpiau eraill.”
O ran canlyniadau’r gwaith, y bwriad yw “cynllunio’r gronfa ddata ar ffurf
fel y gellir allforio’r data i gymwyseddau eraill” a hynny “mewn cyfrwng
sy’n cydweddu’n llwyr â systemau meddalwedd cof cyfieithu sy’n cynnwys
cronfa ddata derminoleg … a chyfrwng lle gellir trosglwyddo’r wybodaeth yn
hawdd i wefan y Bwrdd.”
|