Ie, dwi newydd gael gwybod mai rhywbeth fel 'na yw'r ystyr. Rhoddaf
'gweithio seilo' felly, i gydymffurfio â fersiwn GyA.
Diolch
Gwen
-----Original Message-----
From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 21 November 2003 13:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Silo Working
Hyd y gwn i, mae 'silo working' yn golygu bod pob adran o fewn un sefydliad
yn datblygu cynlluniau a.y.b. ar wahân yn hytrach nag ar y cyd. Rwy'n cymryd
ei fod yn cael ei alw'n 'silo' er mwyn pwysleisio'r diffyg cyswllt ag
adrannau eraill.
Mae Bruce yn cynnig 'seilo' am 'silo' yn y cyd-destun hwnnw. Mae Huw Jones
yn cynnwys 'seilo' a 'silo' i olygu "math o adeilad neu siamber aerglos
bwrpasol i storio grawn neu borthiant tir glas, tw^r aerglos i storio grawn
a phorfa ir. "
A fyddai unrhyw beth o'i le ar ddefnyddio hwn yn drosiadol yn Gymraeg, o
feddwl mai dyma sydd wedi digwydd yn Saesneg?
'Gweithio silo'...?
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwen Rice
Sent: 21 November 2003 12:33
To: [log in to unmask]
Subject: Silo Working
Cyd-destun: Gweithle.
Unrhyw gynigion?
Diolch
Gwen
|