"Cerdded o flaen gofid" fyddai ffrind yn ei ddweud - er ei bod hi'n cyfeirio
at *boeni* ynghylch rhywbeth nad oedd eto wedi digwydd.
Dim ond awgrym hanner o ddifrif, ond efallai gall rhywun arall ei addasu.
Efallai byddai "rhagweld problemau" yn ffitio'ch cyd-destun chi, er imi
feddwl bod "troubleshooting" yn golygu rhywbeth ychydig yn wahanol, megis
"ymosod ar broblemau". Gyda llaw, mewn cyd-destun arall eto, 'roedd Bruce
yn son yn ddiweddar am or-ddefnydd "cael problemau" yn lle "cael
trafferth/anhawster".
Ann
----- Original Message -----
From: "Elen Robert" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 18, 2003 11:58 AM
Subject: troubleshooting
> Fel pennawd i restr o broblemau all godi, ac awgrymiadau ar sut i ddatrys
> y problemau neu eu hosgoi yn y lle cyntaf. Mae felly'n fwy na datrys
> problemau, ac yn wahanol i gywiro diffygion.
>
> Diolch
>
> Elen
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|