Yn dilyn y drafodaeth ddoe ar y safle hwn, dyma ymateb gan Uned Iaith
Gymraeg y Cynulliad, a fydd gobeithio o ddiddordeb:
Mae Uned Iaith Llywodraeth y Cynulliad yn rhannu'r rhwystredigaeth sydd wedi
cael ei mynegi ar y fforwm yma ynglyn â gwe-lywio rhwng gwefan Gymraeg a
gwefan Saesneg y Cynulliad. Mae Cynllun Iaith Llywodraeth y Cynulliad yn
datgan taw'r nod yn y pen draw yw darparu'r gallu i symud yn uniongyrchol
rhwng y ddwy wefan ar lefel tudalen. Bydd hyn yn ystyriaeth ganolog unrhyw
bryd y bydd y wefan yn cael ei hailwampio'n sylweddol. Yn y cyfamser, mae'r
gallu i lywio ar lefel tudalen yn un o'r gofynion pan fo is-safleoedd newydd
yn cael eu comisiynu. Mae'r is-safle Tai (http://www.tai.cymru.gov.uk) yn
cydymffurfio â'r gofyniad hwnnw.
Iwan Evans
Uned Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cynulliad Cymru
-----Original Message-----
From: Garmon Davies [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 08 October 2003 15:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wales Spatial Plan
Bydd hynny'n aml yn fy ngwylltio innau. Byddai hefyd yn ddefnyddiol iawn i
bawb pe bai rhestr ar wefan y Cynulliad sy'n cynnwys enwau rhaglenni a.y.b.
yn Saesneg ynghyd â'r enwau Cymraeg cyfatebol a honno'n cael ei diweddaru
wrth i bolisïau/cynlluniau/rhaglenni newydd gael eu cyflwyno.
Garmon
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
Sent: 08 October 2003 14:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wales Spatial Plan
Diolch. Pam nad yw hi'n bosibl, ar wefan y Cynulliad, i fynd i'r union
dudalen yn Gymraeg roeddech chi'n edrych arni yn y Saesneg? Ffwlbri!
Geraint Criddle
TROSOL
(029) 2075 0760
[log in to unmask]
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies
Sent: 08 October 2003 15:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wales Spatial Plan
Cynllun Gofodol Cymru yn ôl y canlynol:
www.cynllunigymru.cymru.gov.uk/place_we_live/
www.dysgu.cymru.gov.uk/scripts/fe/news_details.asp?NewsID=741
www.wlga.gov.uk/meetings/coord_comm/minutes/0141201cym.pdf
Garmon
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
Criddle
Sent: 08 October 2003 14:04
To: [log in to unmask]
Subject: Wales Spatial Plan
Unrhyw un wedi dod ar draws hwn o'r blaen? Wedi dod o hyd i
enghreifftiau yn Saesneg ar wefan y Cynulliad, ond methu dod o hyd i
enghreifftiau Cymraeg.
PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
On entering the GSI, this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSI) virus scanning service supplied exclusively by Cable &
Wireless in partnership with MessageLabs.
GSI users see
http://www.gsi.gov.uk/main/notices/information/gsi-003-2002.pdf for further
details. In case of problems, please call your organisational IT helpdesk
|