Mae 'blawd lli(f)' hefyd yn derm cyffredin ar lafar am 'sawdust' wrth gwrs
(ac yn cael ei nodi yn y Termiadur).
----- Original Message -----
From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 06, 2003 1:01 PM
Subject: Re: woodchip
Methodd y neges isod oddi wrth John Puw gyrraedd y cylch [daeth ataf fi
fel 'neges wallus'] ond mae'n taflu llawer o oleuni ar y drafodaeth,
felly rwy'n ei dangos isod:
"Llwch lli yw'r cynnyrch o lifio - saw dust yn Saesneg. Mae'n cael ei
werthu fel gwely i fân anifeiliad (a charcharorion America ym Mae
Guantanamo).
Mae wood chips yn cael eu gwerthu mewn canolfannau garddio ac ati i'w
rhoi o amgylch coed i atal chwyn.
Mae wood shaving yn cael eu defnyddio, ymysg pethau eraill, fel gwely i
foch ac ati - maent yn amsugno mwy o lysnafedd na'r chips am eu bod yn
deneuach mae'n debyg."
Diolch John,
Delyth
Ysgrifennodd Gwen Rice:
> Yn ôl y Concise Oxford Dictionary, 'woodchip (also woodchip paper),
> wallpaper with woodchips embedded in it to give a grainy surface texture'.
> Onid 'woodchip' a ddefnyddir mewn papur wal, celfi ar ffurf cit etc, a
> 'wood shavings' yw'r darnau bach cyrliog (yn aml) sy'n dod i ffwrdd wrth
> i rywun lifio darn o bren?
>
> -----Original Message-----
> From: Puw, John [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 06 October 2003 12:26
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: woodchip
>
> Mae'r gweithwyr wedi rhoi eu barn - ac yn amlwg yn defnyddio geiriau
> Cymraeg yn eu gwaith bob dydd. Oni ddylid parchu hynny?
>
> Does gen i run copi o Termau Amaethyddiaeth Huw Jones wrth law -
> mae'n siwr fod yna gyfeiriad yno.
>
> -----Original Message-----
> From: D.Prys [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 06 October 2003 12:04
> To: [log in to unmask]
> Subject: woodchip
>
>
> Rwy wedi cael ymholiad ynghylch y term 'woodchip' gan bobl yn
> gweithio yn y diwydiant coedwigaeth. Roedd eu cyfieithwyr wedi
> defnyddio 'sglodion coed', ar batrwm 'sglodion tatws' a 'sglodion
> silicon'. Fodd bynnag, roedd y gweithwyr yn mynnu mai 'naddion coed'
> oedd 'woochip' iddyn nhw. Mae 'naddion' yn cel ei roi am 'shavings'
> yn y Termiadur, ond a oes angen gwahaniaethu rhwng 'wood shavings' a
> 'woodchip'? Addewais ofyn i'r cylch termau er mwyn cael gwybod a oes
> unrhyw un arall wedi cael trafferth gyda'r term hwn, yn gwybod beth
> sy'n cael ei arfer ar lafar, neu ag unrhyw sylwadau eraill i'w
> cynnig am y term dan sylw.
>
> Delyth
>
>
> D.Prys [log in to unmask]
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod.
> Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os
> gwelwch yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant
> sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu,
> lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily
> the view of North Wales Police.
> The information contained in this communication is confidential. It
> may be legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator
> and erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent
> responsible for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
--
D.Prys [log in to unmask]
D.Prys [log in to unmask]
|