I gadarnhau dyfyniad David o waith Gwynedd Pierce, dyma eiriau Melville
Richards yn 'Enwau Tir a Gwlad' (tt 236-7):
'Cil = cornel',
"rhaid cyfeirio'n fyr at Gilybebyll, Morgannwg. 'Pebyll' yma yw'r ffurf
hynaf ar y gair cyffredin, a 'pebyllau' oedd yr hen ffurf luosog, ond gan
fod 'pebyll' mor debyg i luosog (megis 'padell, pedyll'), gwnaethpwyd ffurf
unigol newydd, sef 'pabell' a lluosog newydd 'pebyll'. Yr hen ffurf luosog
sydd yn 'Cilybebyll'.
Ar td 48 'Place-names in Glamorgan' (1976) awgryma Howard C Jones yn betrus
mai 'Kil' yn yr ystyr Oidelig, sef 'eglwys', sydd yma. Ond ei gasgliad yw:
'... the meaning is not clear'.
Berwyn
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Fiona Wells" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, October 03, 2003 9:26 AM
Subject: Cil-y-bebyll
> Oes gan unrhyw un wybodaeth am darddiad yr enw Cil-y-bebyll yng Nghwm
Tawe,
> os gwelwch yn dda?
> Diolch ymlaen llaw
> Fiona
>
> _________________________________________________________________
> Use MSN Messenger to send music and pics to your friends
> http://www.msn.co.uk/messenger
>
>
|