Ysgrifennodd Iain Ó hAnnaidh:
> Yn y De, y mae v- gychwynnol mewn ambell fenthyciad o'r Saesneg lle y
> ceir f- gychwynnol mewn Saesneg safonol. Mae hyn yn awgrymu iddynt ddod
> i'r Gymraeg o Saesneg De-orllewin Lloegr lle y mae v- i'w chlywed o hyd
> mae'n debyg yn lle f-(er enghraifft, ar lafar Gwlad yr Haf ).
>
> Ceir enghraifftiau hefÿd yn Saesneg safonol - vixen (cadnöes) wrth ochr
> fox (cadno); weathervane (ceiliog y gwynt) sydd yn cyfateb i'r Almaeneg
> die Fahne (= baner).
>
> Enghraifft arall yng Nghymraeg y De yw ffroga (= llyffant) wrth ochr
> broga, brogath, o ffurf wreiddiol froga ag 'f-'.
>
> Yn ôl Geiriadur y Brifysgol:
>
> feri - gweler fferi
>
> (tudalen 1283) fferi - Digwydd yr hen ffurf feri (sy'n gyfochrog â
> fferi) yn yr enw lle Glanyferi (Ferryside, sir Gaernarfon)
>
> _________________________________________________________________
> MSN 8 with e-mail virus protection service: 2 months FREE*
> http://join.msn.com/?page=features/virus
Os felly, beth am i ni i gyd fynd ar y trên ar Reilffordd Festiniog (fel
roedd yr arwydd flynyddoedd yn ôl?!!!!!
Helen
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
|