Eitha reit. Man a man inni geisio mynegi ein syniadau a'n teimladau mor
eglur ag y mae adnoddau cyfoethog yr iaith yn ei ganiatáu. Lle mae
ymddangosiad geiriau newydd, neu ddefnydd newydd ar hen eiriau ac
ymadroddion, yn rhoi cyfle inni wneud yn yn fwy manwl byth, mae hyn i'w
groesawu.
Bod 'strwythur' yn cyfeirio at haniaethau yw'r teimlad sydd gyda fi (e.e.
Cyngor Sir Gaerfyrddin yn sôn am 'Strwythur y Gwasanaethau'), ac 'adeiledd'
at bethau cyffyrddadwy ( e.e. darn am Bont Cleddau: 'Dros yr adeiledd 30
mlwydd oed y mae'r A477 yn croesi dyfrffordd Aberdaugleddau rhwng Doc Penfro
a Neyland ac mae wedi ei wneud o un trawst bocs dur ar ei hyd i gyd sy'n
ymestyn dros 820 o fetrau.'). Wrth gwrs, argraff o duedd a dim mwy yw hyn, a
byddai gofyn am ymchwil manwl i ddarganfod ar ba ochr roedd y fantol yn
pwyso. Dyma wahaniaeth digon syml, ac hyd yn oed oes nad yw ein parchus
gymdogion yn medru'i ganfod, ni welaf hyn yn rheswm yn y byd inni'n
hamddifadu'n hunain. (Os yw'r gwahaniaeth yma yn dal yn broblem i rywun,
cysyllted a fi gan egluro pa ran sy'n annealladwy, a byddaf yn falch i
geisio egluro).
Pâr gogleisiol o ddiddorol yw 'sustem/cyfundrefn', lle mae'r cyntaf yn gallu
cyfeirio at bethau eithaf haniaethol - e.e. 'sustem seinegol' ond hefyd at
gyfarpar - e.e. 'sustem wyntyllu', a'r ail at gyrff neu sefydliadau sy'n
gweithredu o fewn patrwm penodol tuag at ryw nod neu'i gilydd - e.e.
'cyfundrefn iechyd', 'cyfundrefn gyfreithiol'.
Tim
-----Original Message-----
From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 13 October 2003 17:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Diriaeth/Haniaeth
Wn i ddim a yw bod yn ddildio'n beth da. Fu Saunders Lewis dim yn wleidydd
llwyddiannus yn ei dyb ei hun, ac efallai fod ei styfnigrwydd yn rhannol
gyfrifol am hynny. Petai pawb yn benstiff, byddai merched yn dal i fod yn
eiddo, gorff ac enaid, i'w gwy^r, fyddai 'na ddim ficeriaid o ferched, a
byddem yn dal i losgi gwrachod.
Mae gennym oll ein mympwyon, er gwell er gwaeth, ac mae rhai 'termau' wedi
cydio er eu bod nhw'n cynddeiriogi'r puryddion a'r pedantiaid yn ein plith,
ond rhaid ceisio bod yn gall a derbyn bod pobl yn mynd i ddweud
'strwythuro', 'strwythur' ac yn y blaen, er pob rhincian dannedd.
Yr hen ddadl yw hi rhwng y gramadegwyr a'r ieithyddion - y cyntaf yn honni
eu bod yn gwybod beth y dylai pobl fod yn ei ddweud a'r olaf yn ceisio
dilyn greddf naturiol siaradwyr yr iaith. Wela i ddim bod unrhyw beth o'i
le, er enghraifft, ar yr 'i' yn yr ymadrodd 'ambell i ...', ond wna i mo'i
ddefnyddio yn fy nghyfieithiadau am fod rhywun callach na'i gilydd wedi'i
wahardd rywdro o'r iaith glasurol. Ar ba sail, ni wn.
Rhywle yn y canol, felly, y bydda i'n teimlo'n fwyaf cartrefol ... (a sylwer
'mod i'n cymysgu cyweiriau - yr 'y' berthynol glasurol a'r 'bydda i'
llafar!)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 13, 2003 5:00 PM
Subject: Re: Diriaeth/Haniaeth
Dw i ddim yn mynd i ddod a Bruce i mewn i hyn, gan ei fod o'n gwylltio
cymaint ynghylch y gair "strwythur"! Ond pa un o'r ddau isod sydd i fod yn
haniaethol a pha un yn ddiriaethol a pham? faint o bobl sy'n gwneud y
gwahaniaeth? beth am "adeiledd"? a pham *mae* angen y gair "strwythur" o
gwbl? pam penderfynwyd bod angen bathu gair newydd i gyfleu'r gwahaniaeth
gan nad oedd un yn y Saesneg 0(os mai dyna oedd y bwriad, ac nid diffyg
ymwybyddiaeth o'r dewisiadau a oedd ar gael eisoes)?
Gan wybod y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn dweud bod y frwydr wedi'i cholli,
dyfynnaf Dafydd Glyn Jones (yn son am Saunders Lewis - un i'r casgliad o
ddyfyniadau?), "ni bu profi anobaith erioed yn gyfystyr ag ildio iddo".
Ann
----- Original Message -----
From: Saunders, Tim <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 13, 2003 4:01 PM
Subject: Diriaeth/Haniaeth
> Un pwnc bach wnaeth groesi fy meddwl bwy ddiwrnod oedd mor ddefnyddiol
> fyddai cael rhestrau cyfochrog o eiriau ac ymadroddion sy'n dynodi
> cysyniadau tebyg ond bod y naill yn ddiriaethol a'r llall yn haniaethol,
> megis adeiladwaith/strwythur ayyb. Oes gan rywun (neu rywrai) unrhyw
> syniadau ar y pwnc?
>
>
> Tim
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd / Translator
> Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council
> Translation Unit
> Ty Trevithick
> Abercynon
> Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
> Ffôn +44-(0)-01443-744418
>
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
> derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
yn
> dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n
> gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu,
> dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
> of Rhondda Cynon Taf Council.
> The information contained in this communication is confidential. It may be
> legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
erase
> this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible
> for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|