Diolch yn fawr Nia.
O ran tegwch i'r "awdur", mae'n werth dweud mai John Lewis, sydd bellach
yn gyfieithydd cyfraith yn y Cynulliad, a luniodd restr 'Caerfyrddin', a
hynny pan aeth Uned Gyfieithu'r Swyddfa Gymreig ati i gasglu enwau
strydoedd Cymru. Cysylltwyd â phob cyngor i ofyn am restr o unrhyw
strydoedd oedd ag enw dwyieithog *swyddogol*, eu casglu ynghyd, a
chylchredeg y rhestr yn ôl i'r cynghorau wedyn.
|