> GyrA: stand-up comedian - digrifwr ar ei draed/sefyll.
Beth am ail-edrych ar be sy'n gwahaniaethu stand-up comedian o unrhyw
gomedian arall.
1. Mae unigolyn yn sefyll ar lwyfan gyda cynulleidfa fyw yn eistedd.
2. Mae ganddyn nhw feicroffon a stand sydd yn aml yn rhan bwysig o'r
cyflwyniad
3. Nid actio mae nhw ond mae yna elfennau o berfformio a actio yn y
cyflwyniad
4. Gwaith proffesiynol yw hi - yn wahanol i jocar lawr y dafarn yn
rhoi sylwadau ffraeth ar fywyd ar ol dau neu dri peint.
O hyn, fasen i'n cynnig 'digrifwr llwyfan'.
Fe all digrifwr fod mewn sitcom ond wedyn actor yw e. Fe all digrifwr
ddweud jocs ar sioe siarad ond wedyn jyst 'digrifwr' yw e.
|