I gytuno gyda David Bullock nid yw "gorffwylledd" yn derm addas ar gyfer
dementia yn fy marn i. Mae dementia yn broses organig sy'n datblygu dros
gyfnod o amser lle mae rhannau o'r ymennydd yn cael eu niweidio (e.e. drwy
waedlifau bach ond cyson, diffyg ocsigen yn mynd i ran arbennig o'r ymennydd,
neu gelloedd yn yr ymennydd yn cael eu difa am resymau eraill) sy'n arwain at
golled penodol mewn gallu neu sgiliau.
Mae gorffwylledd, o fy nealltwriaeth i, yn gyflwr "dros dro" (e.e. seicosis -
er y gall fod barhau am gyfnod eithaf hir) lle nad oes cyflwr organig difaol a
lle mae'n bosib i'r claf/cleient gael ei adfer.
Er gwybodaeth "dementia" mae'r ganolfan arbenigol ym Mangor yn ei ddefnyddio
fel term ar gyfer y cyflyrau (gweler eu tudalen we: www.bangor.ac.uk/dsdc )
Hwyl
Mair
>
> -----Original Message-----
> From: David Bullock [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 29 September 2003 10:03
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Rhestr o eiriau am bobl hy^n
>
>
> Ga i awgrymu bod 'gorffwylledd' efallai yn awgrymu rhywbeth tebycach o ran
> ei flas (cas) i 'madness', ac y byddai'r gair Lladin dementia yn llawer mwy
> niwtral.
>
> Wi hefyd wedi gweld 'ffwndrus' yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n
> cyfateb i 'confused'.
>
> Ydy 'eiddil eu meddwl' yn canu cloch am 'mentally infirm'?
>
> ----- Original Message -----
> From: Puw, John <mailto:[log in to unmask]>
> To: David Bullock <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Monday, September 29, 2003 9:51 AM
> Subject: Re: Rhestr o eiriau am bobl hy^n
>
>
>
> Pobl hy^n = Older People
>
> ? = mentally infirm
>
> Gorffwylledd = dementia
>
> Dryslyd = Confused
>
> (Yr) Henoed = Elderly
>
> Bregus = Frail
>
> Agored i Niwed = Vulnerable
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Saunders, Tim [ mailto:[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]> ]
> Sent: 29 September 2003 09:32
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Subject:
>
>
> S? A? C?
>
> older people
>
> mentally infirm
>
> dementia
>
> confused
>
> elderly
>
> frail
>
> vulnerable
>
>
>
>
> Tim
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd / Translator
> Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council
> Translation Unit Ty Trevithick
> Abercynon
> Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
> Ffôn +44-(0)-01443-744418
>
>
>
>
--
This mail sent through http://webmail.bangor.ac.uk
|