Parth. sylwadau Berwyn: blas gogleddol ar y cyfan sy ar fy nghyfieithiadau
i am mai gogleddwraig ydw i ac mi fasa iaith ddeheuol yn teimlo'n
annaturiol i mi. Mae na gyfaddawdu hefyd, ee ef, gyda, yn awr ella'n fwy
safonol na fo, efo, rwan ayyb. Lle bo rhaid dewis a'r naill heb fod yn fwy
safonol na'r llall, y dewis gogleddol sy'n mynd a hi. Lle bydd gen i ryddid
i fod yn greadigol ac yn llai ffurfiol, mor idiomatig ag y bo modd pia hi
felly mae hynny'n mynd yn fwy gogleddol. Ond os bydd na well ymadrodd gan
yr hwntws, ee ymdopi, mi fydda i'n ddigon hy a'i ddefnyddio (er mai anamal
iawn mae hynny'n digwydd wrth gwrs!) Mae'r canlyniad naill ai'n glytwaith
bler o anghysondera sy heb fod yn cyd-fynd neu'n gyfuniad diddorol a
lliwgar o'r goreuon o bob man (run fath a dillad a bwyd) - barned y sawl a
gomisiyna.
Annes
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.509 / Virus Database: 306 - Release Date: 12/08/03
|