On Thu, Jul 31, 2003 at 10:11:44AM +0100, Saunders, Tim wrote:
> Fe allai hyn fod yn broblem, gan fod hawlfraint gan yr Hormel Foods
> Corporation ar y gair 'Spam'. Ar hyn o bryd, maent yn mynd â chwmni
> SpamArrest i gyfraith am dorhawlfraint, achos a gollant yn ôl pob tebyg gan
> nad yw'r cwmni meddalwedd o Seattle yn ceisio gwerthu cig tun.
Hawlfraint ar y nod marchnata 'SPAM' sydd ganddyn nhw (mae'r prif
lythrennau yn bwysig). Mae'n ddigon teg defnyddop 'spam' neu 'Spam'.
I ddweud y gwir, yn ol deddfwriaeth y DU, mae'n debyg mae hawlfraint
sydd ganddynt ar y gair 'SPAM' yn ei ffont arbennig nhw.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|