Dw i ddim yn siwr, o'r cwestiwn gwreiddiol, a oeddech chi wedi dod o hyd i'r
hen drafodaeth ai peidio. Os na, 'roedd dan "Spider Diagram", ar y 4dd o
Dachwedd llynedd.
Ann
----- Original Message -----
From: John D Williams <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, August 12, 2003 1:19 PM
Subject: Spider Gram
Gan dorri ar y distawrwydd llethol- roedd y gair spidergram - fel un
gair dwi'n meddwl, gan ddilyn geiriau fel anagram, epigram, monogram,
telegram, - yn boblogaidd mewn Mathemateg ar ddiwedd yr 80au ac ar
ddechrau'r 90au. Fedra i ddim dod o hyd iddo yn unlle ond dwi yn cofio
gofyn i rai o'r athrawon ar y pryd beth oedd y ffurf Gymraeg, a fedra i
ddim cofio. Yn anffodus does neb yma i helpu heddiw a hyd y gwelaf,
dydy o ddim mewn geiriadur chwaith. Os nad yw'n cael ei ddefnyddio
erbyn hyn, mae'n rhaid bod term arall, a siāp arall, wedi ei ddisodli -
oni wyr rhywun yn wahanol.
|