Mae'n rhaid cyfaddef alla i ddim goddef gweld yr un terfyniad i bob dyddiad.
Falle mai fi sy'n henffasiwn, ond gan nad yw dyddiadau'r mis yn mynd heibio
i 31, ac felly bod modd defnyddio'r hen ffurfiau rhifol heb fod yn rhy
lletchwith, yn fy marn i mae'n braf iawn medru eu cadw nhw yn y cyd-destun
yna.
Fiona
>From: Dafydd Lewis <[log in to unmask]>
>Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
>To: [log in to unmask]
>Subject: 11fed
>Date: Thu, 28 Aug 2003 22:11:05 +0100
>
>Ydyw hyn yn dderbyniol?!
>Tybiais mai 11eg sydd yn gywir, ond mae cymaint o ddefnydd yn cael ei
>wneud o 11fed (a bob dim arall -fed) mewn dogfennau swyddogol hyd yn oed -
>beth sy'n gywir (11eg, 15fed, 19eg, 21ain ayyb) ynteu jest sticio "fed" ar
>ol bob dim?
>dafydd
_________________________________________________________________
On the move? Get Hotmail on your mobile phone http://www.msn.co.uk/msnmobile
|