'Bagloriaeth Cymru' yw'r teitl rwy'n meddwl.
----- Original Message -----
From: "teulu lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, August 19, 2003 12:38 AM
Subject: Re: Y Fagloriaeth Gymreig
> Diolch o galon - wnes i ddim meddwl am wefan CBAC - pa mor dwp all
> rhywun fod? Wedi edrych, ac argraffu, ac mae'n ateb fy ngofynion i'r
> dim, hyd yn oed os yw'n rhy hwyr i stopio'r addysgwyr gael gafael ar y
> gwaith papur, Meg! Mae iaith addysg wedi mynd yr un mor gyfrin ag iaith
> meddygaeth, choelia i fawr - wedi'i llunio i bobl beidio deall....
> Darllenais erthyglau'r SMC dro'n ol a meddwl fod y syniad yn un
> ardderchog..... hoffi'r syniad o wneud i bobl berthyn i'w lle a'u
> hamser.... gwnaf fy ngorau i wneud i fy nghyfieithiad drosglwyddo'r
> cyffro....!
> Magi
>
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, August 18, 2003 11:25
> Subject: Re: Y Fagloriaeth Gymreig
>
>
> > Ysgrifennodd 'teulu lewis'
> > > Ai dyma'r gyfrinach fwyaf yng Nghyrmu? Wrthi'n cyfieithu darn am y
> > > cymhwyster newydd a methu dod o hyd i unrhyw gyfeiriad call ar wefan
> y
> > > Cynulliad, Google nac unrhyw google arall. Isio gweld a oes jargon
> > > newydd wedi'i fathu yn neilltuol at gyfer hwn - er mwyn ei ddynwared
> neu
> > > ei osgoi.... Help rhywun, os gwelwch yn dda a diolch.
> >
> > Dwi ddim wedi gweld unrhyw restr o dermau ond mae'n bosib cymharu
> > fersiynau Cymraeg/saesneg o rhai gwefannau e.e. un gan CBAC
> >
> > http://www.wbq.org.uk/
> >
> > Mae yr IWA wedi gwneud gwaith ar hyn ers peth amser
> >
> > http://www.iwa.org.uk/welshbac/welshbac.htm
> >
> > (Gwybodaeth ddwyieithiog ar waelod y dudalen)
> >
> > --
> > Dafydd Tomos
> <URL:http://www.fydd.org/d/>
>
|