Mae 'na lyfr hefyd o dan y teitl Yr Arth Bach [sic] neu rywbeth tebyg, stori
am Alun yr Arth, dwi'n meddwl.
-----Original Message-----
From: annes [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 11 August 1988 10:13
To: [log in to unmask]
Subject: ll'godan/cath ayyb
Gan ei bod hi'n silly season arnon ni... mae hyn yn fy mhoeni i ers peth
amser. Pan fo ll'godan ne gath yn wryw, pryd mae rhywun yn defnyddio cenedl
yr enw a phryd mae rhywun yn defnyddio cenedl yr anifail? Ll'godan fawr
wryw oedd Whifflet pan oedd o/hi byw ac iach, a chath wryw ydi Sylvester.
Ydi hi'n dibynnu a ydi rhywun yn defnyddio'r enw ta'r enw priod? Ee 'Mae'r
ll'godan fawr wrth ei bodd efo Maltesers' a 'Mae Whifflet wrth ei fodd efo
Maltesers' A be os ydi'r enw a'r enw priod yn digwydd yn yr un frawddeg? Ee
'Mae Sylvester yn gath fach iawn - dringo i fyny'ch coesa chi ydi ei betha
fo/ei phetha hi.' Neu yn yr enghraifft honno, ydi'n dibynnu ar y
rhagflaenydd - 'Mae Sylvester yn gath fach iawn - dringo i fyny'ch coesa
chi ydi'i phetha hi' a 'Cath fach iawn ydi Sylvester - dringo i fyny'ch
coesa chi ydi'i betha fo.'? Yr un broblam efo ci wrth gwrs ond bod modd
defnyddio'r gair gast. A be am ffurat? Ond gan na does gen i ddim ffurat
dydi'r peth ddim yn gymaint o boen i mi. Diolch am unrhyw oleuni.
Annes
|