Lecio'r parthenw yn arw. Y wlad drws nesa i Transnylfania ia?
Dwynwen.
----- Original Message -----
From: annes <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, August 05, 1988 8:27 PM
Subject: parthenw
> Maddeuwch i mi a plis peidiwch a rhoi drwg i mi am gam--defnyddio'r cylch
> ond dyma'r bobol mwya gwreiddiol a deallus y galla i ofyn eu barn nhw
> (crawl, crawl, grovel, grovel). Dwi'n meddwl cael parthenw ar gyfer ebost
> fel y medra i newid ISP pan lecia i heb drafferth. Ac isio rhywbeth
bachog.
> Ddim isio defnyddio enw lle gan na dydw i ddim yn teimlo bod gen i'r hawl
i
> neud hynny. Meddwl am ddefnyddio enw un o'r cathod ond mae Sound of Eigg
yn
> enw lle; mae Pussy Nancy yn swnio braidd yn bornograffig; mae Elvis yn
mynd
> i nghysylltu i a gwefannau Elvis Presley, ac mae Sylvester yn mynd i
> nghysylltu i a gwefannau am Sylvester Stallone & Sylvester McCoy. Felly
> dyma chwilio am rywbeth oedd ag awgrym o ngwaith i ac o f'enw i. Beth am
> Trosianna? Y swydd + yr enw rydw i'n ei arfer fwya'r dyddia yma. Ac mae'n
> swnio fel gair, ac yn swnio fel rhyw bentre yn yr Eidal, fy hoff wlad i.
> Faswn i'n gwerthfawrogi eich barn, neu unrhyw syniada gwell. Diolch yn
fawr
> ymlaen llaw.
>
> Annes
>
>
|