Gobeithio'n wir. Unwaith y byddan nhw yng ngeiriadur nesaf yr Academi,
efallai? Rhoddaf 'pacora' felly oni bai y bydd rhywun yn dweud bod dadl dda
yn erbyn hyn.
Diolch, Tim.
Gwen
-----Original Message-----
From: Saunders, Tim [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 05 August 2003 14:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Pakora
Wedi gweld y ddau, a dweud y gwir. Siawns y gallwn ni ystyried y pacora mor
Gymreigaidd â brandi, pancos, sbageti neu gyri erbyn hyn?
Tim
-----Original Message-----
From: Gwen Rice [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 05 August 2003 14:03
To: [log in to unmask]
Subject: Pakora
Cyd-destun: coginio.
Oes rhywun wedi gweld / defnyddio naill ai 'pakora' neu 'pacora' ac eisoes
wedi gwneud y penderfyniad am y sillafiad, tybed?
O'r Hindi 'pakora' (gydag a hir) y mae'n dod.
Diolch
Gwen
|