Grêt - diolch i'r ddau ohonoch am eich sylwadau.
Melanie
-----Original Message-----
From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 July 2003 14:39
To: Melanie Davies
Subject: Re: Demonstration Teaching
Mae'n edrych i mi fel eu bod yn sôn am roi gwersi enghreifftiol i ddarpar
athrawon/tiwtoriaid, lle y mae nifer o ddisgyblion yn mynd i sefydliad/coleg
ac ati, yn cael gwers gan athro da /rhywun cymwys arall sydd am ddangos
technegau dysgu da. Bydd y darpar athrawon/tiwtoriaid yn arsylwi ar y wers
a, gobeithir, yn efelychu'r athro gwych pan ânt yn ôl i'w hysgolion eu
hunain. Dw i heb weld na chlywed am lawer o enghreifftiau o hyn yn digwydd
mewn ysgolion ond dw i wedi gweld ambell i fideo o wers 'enghreifftiol' a
dynnwyd mewn gwersi arferol athrawon da i ddangos sut i fynd ati i ddysgu.
Ceir cyfnod o drafodaeth wedyn i drafod beth wnaeth yr athro oedd mor wych a
sut wnaeth e/hi ddelio at unrhyw broblem neu symud y wers ymlaen ac ati.
Efallai y byddai'n well defnyddio 'arddangos dulliau addysgu' gan mai'r
elfen o 'arddangos' y grefft o fod yn addysgwr yw'r elfen bwysicaf.
Muiris
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.502 / Virus Database: 300 - Release Date: 18/07/03
|