Unrhyw awgrymiadau am 'budd-ddeiliaid' os gwelwch yn dda? - 'casglwyd
barn y budd-ddeiliaid oedd yn rhan o'r trefniant drwy gyfres o
gyfweliadau anffurfiol.'
Diolch.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 11 July 2003 14:07
To: [log in to unmask]
Subject: Re: dynamically updateable web pages
Ysgrifennodd, Meinir Huws wrote:
>
> tudalennau gwe y gellir eu diweddaru'n ddynamig - neu a wyr unrhyw un
> am rywbeth mwy bachog (rhaid cyfadde' nad wy'n deall ystyr
> 'dynamically' yn y cyswllt yma, a methais a chael unrhyw oleuni o
> chwilio'r We).
Gwir ystyr 'dynamic' yn y cyd-destun yma yw fod cynnwys neu arddull
tudalen yn gallu newid heb orfod cysylltu a'r gweinydd. Un enghraifft
syml yw rhestr o newyddion diweddaraf sy'n sgrolio fyny'r sgrin gan
ddangos un pennawd ar y tro.
Ond y term mwy adnabyddus am hynny yw DHTML a dwi'n gwybod fod nifer o
bobl yn defnyddio'r jargon 'dynamic update' i olygu unrhyw dudalen lle
mae'r cynnwys yn cael ei greu ar-y-pryd, lle mae'r wybodaeth yn dod o
gronfa ddata.
Felly dwi'n credu fod yr awgrym yn gywir ond efallai fod 'tudalennau gwe
wedi ei diweddaru'n ddeinamig' yn well?
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r Cyngor ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol Cyngor Gwynedd yn bersonol i'r awdur ac nid yw'n awdurdodedig gan y Cyngor.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact Gwynedd Council at once.
Any content that is not pertinent to Gwynedd Council business is personal to the author, and is not necessarily the view of the Council.
-------------------------------------------------------------
|