Dwi wedi bod dan yr argraff mai 'Cymorth Rhodd' yw 'Gift Aid', ond ymddengys
mai 'Rhodd Cymorth' sy'n cael ei ddefnyddio gan Gyllid y Wlad. (Wrth
chwilio ar Google gan ddefnyddio'r naill ffurff a'r llall mae'n ddiddorol
gweld y canlyniadau).
Beth yw barn y gweddill ohonoch? Dwi'n dal yn ffafrio 'Cymorth Rhodd' gan
feddwl tybed ai camgyfieithu sy'n gyfrifol am ffurf Cyllid y Wlad, gan
gyfieithu'r geiriau yn eu trefn Saesneg. Efallai nad ydwi'n deall y term yn
gywir, ond roeddwn i'n meddwl fod yr 'Aid' yn cyfeirio at y ffaith fod
Cyllid y Wlad yn rhoi arian ar ben y rhodd (sef y treth incwm).
Catrin
|