Mae'r anhwylder yn fwy tebygol mewn plant sydd wedi eu mabwysiadu neu eu
maethu oherwydd y profiadau maent wedi ei cael cyn mynd i ofal.
Mae'r rhan fwyaf o blant mewn teuluoedd cymharol "normal" yn dysgu eu bod yn
gallu ymddiried yn eu prif-ofalwyr (Mam a/neu Dad yn y lle cyntaf)ar gyfer
pethau fel maeth, gofal corfforol, a chariad/gofal emosiynol. Yn anffodus, mae
rhai plant yn cael magwraeth gynnar sydd yn dreisiol neu yn ddiffygiol iawn -
ac mae hyn yn golygu nad yw'r plentyn yn dysgu sut i ymddiried. Os yw'r
cyfnod yn para am gyfnod estynedig, neu bod y plentyn yn cael eu symud o un
lleoliad i yn arall (ac i un arall, ac i un arall ayyb) nid yw'r plentyn yn
cael cyfle i ddatblygu perthynas glos â phrif ofalwr - ac felly yn dangos
symptomau o ddiffyg ymlyniad. Gall hyn fod yn ymddygiad o "rewi" neu yn
ymddygiad o fod yn or-gyfeillgar â phobl sy'n ddieithr, a diffyg gwahaniaethu
ymddygiad rhwng dieithriaid a theulu (sy'n eu gwneud yn .
Anhwylder Ymlyniad fyddwn i'n ei ddefnyddio yn hytrach na Anhwylder Cysylltiad
oherwydd mae'r diffyg yn fwy na diffyg gallu cysylltu.
Mair
Quoting Garmon Davies <[log in to unmask]>:
> Iechyd meddwl – yn ôl yr hyn yr wyf wedi ei ganfod hyd yma, mae’n effeithio
> ar rai plant wedi'u mabwysiadu neu sydd wedi derbyn gofal maeth neu ofal
> gan
> y Gwasanaethau Cymdeithasol. ‘Anhwylder Cysylltiad’??
>
> Diolch am unrhyw gymorth,
>
> Garmon.
>
> Garmon Davies
> Ewrolingo
>
>
>
>
>
--
This mail sent through http://webmail.bangor.ac.uk
|