'Cynhadledd Penaethiaid' sy'n gywir am mai genidol yw Penaethiaid yma,
nid ansoddeiriol. Ansoddeiriau sy'n treiglo ar ol enwau benywaidd. Jyst
i wneud pethau'n ddiddorol, roedd y genidol yn treiglo ar ol enwau
(benwyaidd a gwrywaidd) mewn Cymraeg Canol, felly 'Ty Ddewi' fel enw lle
(enw sy'n ffosil o'r Oesoedd Canol) ond ty Dewi fyddai rhywun yn ei
ddweud heddiw.
O ie, ac i wneud pethau'n fwy diddorol byth, mae modd dehongli rhai
ymadroddion fel enw+ansoddair neu enw+genidol e.e. nyrs cymuned/nyrs
gymuned(ol) - nyrs cymuned os mai nyrs sy'n perthyn i'r gymuned yw hi,
nyrs gymuned(ol) os mai teip arbennig o nyrs yw hi...
Mae terfyniadau -ol/-aidd weithiau'n help i ni weld a yw rhywbeth yn
ansoddair neu beidio (byddai 'cynhadledd benaethol' yn rhyfedd iawn!)
Cymhleth? - beth felly yw'r gwahaniaeth rhwng siop frics a siop brics?
Ateb: mae siop frics wedi'i gwneud o frics (ansoddeiriol) ond mae siop
brics yn gwerthu brics (genidol).
Tydi iaith yn hwyl.
Delyth
Ysgrifennodd Meleri Haf Hughes:
> Gan fod 'cynhadledd' yn fenywaidd a yw 'ar gyfer y Gynhadledd Benaethiaid'
> yn gywir ynteu 'ar gyfer y Cynhadledd Penaethiaid?'
>
> Diolch
> Meleri
--
D.Prys [log in to unmask]
D.Prys [log in to unmask]
|