Tri Bwch Gafr Surbwch oedd yn y cyfieithiad Cymraeg welais i slawer
dydd, ac rwy'n meddwl mai ellyll oedd yn cuddio dan y bont. Pan oedd y 3
mab gen i yn blant (un mawr, un canolig,ac un bach) gallwch chi ddyfalu
pwy oedd yn cael chwarae rhan yr ellyll...
Delyth
Ysgrifennodd Puw, John:
> Roeddwn i'n meddwl taw "Ogre" oedd o dan y bont. Mae Bruce yn awgrymu
> bod y math hwn o gawr yn hoff o gig dynol - felly pam fod tri gafr
> gwryw'n poeni, nis gwn?
>
> -----Original Message-----
> From: Nia Llwyd [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 21 July 2003 14:46
> To: [log in to unmask]
> Subject: Straeon Plant
>
>
> Rwyf wrthi cyfieithu pecyn i blant 3-5 oed. Ynddo, mae sawl stori.
>
> Tybed oes yna unrhyw un yn gwybod neu'n cofio rhai manylion o'r straeon
> hyn:
>
> Stori'r Tri Bwch Gafr (The Three Billy Goats). Mae'r stori'n sôn am y
> 'little Billy Goat Gruff', 'medium sized Billy Goat Gruff' a'r 'great
> big Billy Goat Gruff'. Be oedd y rhain yn Gymraeg? Bwch Gafr Bach,
> Canolig a Mawr/Anferthol? Hefyd, beth oedd yn cuddio o dan y bont wrth
> i'r Geifr ei chroesi? (Troll sydd yn y Saesneg)
>
> Yr ail stori yw: 'The elves and the shoemaker'. Eto, oes unrhyw un yn
> cofio neu'n gwybod beth yw'r teitl Cymraeg? Dwi wedi dod ar draws "Y
> Crydd a'r ddau goblyn" ond am ryw reswm tydi hwn ddim yn canu cloch. Oes
> na fersiwn arall neu ai hwn ydi'r un cywir?
>
> Diolch yn fawr i bawb ymlaen llaw am eich cymorth,
>
> Nia
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
> derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
> yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant
> sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu,
> lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the
> view of North Wales Police.
> The information contained in this communication is confidential. It may
> be legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
> erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent
> responsible for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
--
D.Prys [log in to unmask]
D.Prys [log in to unmask]
|