Rwy'n cyfieithu pecyn i blant 3-5 oed ar hyn o bryd ac ynddo mae sawl rhigwm rhif. Mae'n rhaid i un o'r rhigymau ymwneud â dŵr (gweler isod). Oes yna unrhyw un yn gwybod lle allai ddod o hyd i rigymau rhif Cymraeg? Neu efallai bod rhai ohonoch yn gwybod rhai? Byddai unrhyw gynigion yn ddefnyddiol iawn.
Dyma un o'r rhigymau rhif, er enghraifft:
One two three four five
Once I caught a fish alive.
Six seven eight nine ten
Then I let him go again.
Why did you let him go?
Because he bit my finger so.
Which finger did he bite?
This little finger on my right!
Diolch yn fawr ymlaen llaw,
Nia
|