Dwi'n hoffi'r ffaith mai'r bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n siarad Cymraeg
"gwell" sy'n tueddu i ddeud "dwy fil a thair", tra mai'r bobl y maen nhw'n
dueddol o edrych i lawr eu trwynau arnyn nhw sy'n deud y ffurf gywir "dwy
fil a thri" (oni bai eu bod nhw'n deud "dau fil a thri" wrth gwrs).
Tydi bywyd yn ddifyr.
----- Original Message -----
From: Dafydd Lewis <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 05, 2003 11:39 AM
Subject: Re: 2003
> Mae'n debyg fod gan yr ateb rywbeth i'w wneud a'r ffaith fod ieithoedd yn
> newid i siwtio'r amseroedd, a ffurfiau wedi dod o gwmpas trwy gael eu
> defnyddio ar lafar gwlad. Mae'r Saesneg yn engraifft o iaith lwyddiannus
> sydd wedi newid yn sylweddol - yn Saesneg yr Unol Daleithiau mae hi'n
> llawn gwallau ond 'does neb yn meindio?
|