Ysgrifennodd annes:
> Roeddwn i'n meddwl ella am 'sbectol o glust i glust' - a cyn i rywun
> ddeud bod pob sbectol yn mynd o glust i glust ne fasan nhw'n syrthio,
> eto mae'r ffaith o ddeud hynny yn awgrymu (i mi beth bynnag) eu bod
> nhw'n gneud mwy o ymestyn na'r sbectol gyffredin. Wrth gwrs, tasa rhywun
> yn ystyried mai sbectol = y rhan ohonyn nhw sy'n gneud y gwaith pwysig,
> sef y lensys heb gynnwys y petha ar yr ochra - dwn i ddim wir be ydi'u
> henwa nhw nac yn Gymraeg nac yn Saesneg, yna mi fasa sbectol o glust i
> glust yn cyfleu'r ystyr.
>
> Ne ba am sbectol efo/gydag ochrau? Braidd yn ddi-fflach ella.
>
> I be mae gofyn i bobol fathu enwa newydd byth a hefyd i'n hambygio ni?
>
> Annes
>
> Gyda llaw, edrych ymlaen at gynhadledd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
> wythnos nesa - dwi'n nabod neb bron ohonach chi o ran eich golwg -
> hyfryd o beth fydd gweld rhai ohonach chi yn y cnawd ar ol hir e-ymgomio
Beth am sbectol cwmpasog?
Helen
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
|