Berwyn Jones wrote:
>
> Gan i Fwrdd yr Iaith roi grant i Gymdeithas Genedlaethol y Caeau Chwarae eleni
> i lunio geirfa sy'n ymwneud a^ chaeau chwarae a chwaraeon, mae grw^p bach
> ohonom ar fin dechrau casglu'r termau perthnasol. Ar gais y Gymdeithas Caeau
> Chwarae, fe arweinir y grw^p gan Leo McNeir, golygydd Geiriadur Terminoleg
> Trefniadaeth y Cynulliad. Aelodau'r grw^p yw Huw Llywelyn Davies, Mary Jones a
> minnau.
>
> Tybed, felly, a ga i apelio at aelodau'r cylch i gyfrannu unrhyw derm neu
> gasgliad o dermau y maen nhw wedi'i lunio dros y blynyddoedd? Does dim angen
> i'r cyfraniad fod yn un maith na chynhwysfawr gan y bydd pob term ychwanegol
> yn gaffaeliad i'r achos. Bydd croeso arbennig i unrhyw dermau sy'n newydd yn
> Saesneg (tebyg i 'playoffs' = gemau ail-gyfle) neu'n dermau sy'n perthyn i
> gemau llai cyffredin. Bydd croeso heyfd i unrhyw gyfeiriadau at wefannau sy'n
> trafod chwaraeon yn y Gymraeg.
>
> Y geiriaduron/geirfa^u sydd gennym eisoes yw'r geiriaduron safonol (Geiriadur
> yr Academi, Y Termiadur Ysgol, Geiriadur Termau ac ati) ynghyd a^ rhestr
> ddrafft y Ganolfan Safoni Termau o Dermau Addysg Gorfforol (Rhagfyr 1994).
Wn i ddim os bydd hynny o gymorth, ond mae croeso arnat ti chwilion yn
fy ngeiriadur ar-lein wrth
http://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconEW.html
(neu, ar gyfer fersiwn text-yn-unig)
http://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconEW.etx
Mae fersiwn newydd o'r geiriadur wedi ei bostio Ddydd Sadwrn.
Mi fyddwn i a+ diddordeb mewn cynnwys y termau mae'r grw+p yn casglu
(neu fathu) yn fy ngeiriadur, hefyd.
--Mark
|