Yn rhyfedd iawn, nid yw 'binge eating' na chwaith 'binge drinking' yn
ymddangos yn 'Termau Hybu Iechyd'. Mi fyddwn i'n tybio bod "bwyta heb
reolaeth" neu "bwyta direolaeth" gystal ag unrhyw gynnig arall gan ei fod yn
cyfleu natur y 'cyflwr' hwn i'r dim.
Ken Owen
Marian-glas
----- Original Message -----
From: M.Edwards <[log in to unmask]>
To: Ken Owen <[log in to unmask]>
Sent: 23 June 2003 15:16
Subject: Re: binge eating
Yn fy marn i, ni fydde "bwyta gorffwyll" yn dderbyniol.
Diffyg rheolaeth ar faint o fwyd sy'n cael ei fwyta o fewn cyfnod yw'r
cyflwr
(boed hynny yn funudau neu'n gyfnod hwy)heb gysylltiad yn y rhan fwyaf o
achosion gyda gorffwylledd neu rithdybiadau. Er mor glogyrnaidd, "bwyta heb
reolaeth" neu "bwyta direolaeth" fyddwn i'n ei gynnig fel rhywun sy'n
gweithio'n achlysurol gyda phobl gydag anhwylderau bwyta. Debyg na
fydde "llowcio direolaeth" yn ddealladwy yn y De?
Mair
Quoting "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>:
> Ddim o reidrwydd, o gofio cwpl bach [olreit, anghofier y 'bach'] o bethau
a
> welais i.
>
> OND ... cofier bod 'gorffwyll' yn derm cyfreithiol gydag ystyr benodol
> iawn.
> Er enghraifft, pe bai Siôn yn bwyta Siencyn dan yr argraff taw pecyn o
bice
> ar y mân oedd Siencyn, fe allai bledio gorffwylledd fel amddiffyniad i
> gyhuddiad o lofruddiaeth. Pe caniateid y ple, câi Siôn ei gaethiwo yn
ystod
> pleser Ei Mawrhydi. Fe fyddai hyn, yn gyfreithiol, yn 'fwyta gorffwyll' ni
> waeth pa mor boleit a delicêt oedd ffordd Siôn o fwyta Siencyn.
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Puw, John [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 23 June 2003 14:39
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: binge eating
>
>
>
> Ydi Bwyta Gorffwyll yn rhy gryf?
>
> -----Original Message-----
> From: Wyn Hobson [ mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> ]
> Sent: 23 June 2003 14:20
> To: [log in to unmask]
> Subject: binge eating
>
>
> Yng nghyd-destun bwlimia. Wnaiff 'sbri' mo'r tro yn yr achos hwn, dw i
ddim
>
> yn meddwl.
>
> Wyn
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
> derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
yn
> dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n
> gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu,
> dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
> of North Wales Police.
> The information contained in this communication is confidential. It may be
> legally privileged.
> It is intended only for the person or entity nam! ed above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
> erase
> this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible
> for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
>
>
--
This mail sent through http://webmail.bangor.ac.uk
|