Oes rhestr i'w chael o eiriau Cymraeg a enillodd droit de cité yn yr OED? Ar
wahan i'r ameuedigion arferol, gogleisiol oedd sylwi bod 'coch-y-bonddu' yn
air Saesneg dileryw bellach.
Tim
-----Original Message-----
From: Glenys M Roberts [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 25 June 2003 09:18
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Prifardd
Cwestiwn teg. Efallai y basai angen eglurhad byr mewn cromfachau, gan
ddibynnu ar y cyd-destun. Ond rhy hwyr yn achos fy nghyfieithiad bach i, mae
arna i ofn - wedi ei ddychwelyd echdoe!
Glenys
----- Original Message -----
From: "GBI-Richard Hughes" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 25, 2003 9:02 AM
Subject: Prifardd
> Paham cyfieithu y gair 'prifardd' o gwbl gan nad yw'r amgylchiadau
> diwylliannol mewn bod y tu
> allan i Gymru? Onid yw 'prifardd' fel 'eisteddfod' yn haeddu ei le yn
> yr OED? Clywais cyfweliad
> a^'r arweinydd enwog Lorin Masel echnos - 'maestro' oedd y cyfarchiad
> yn yr Almaeneg a thybiaf
> mai 'maestro' y buasai mewn sawl iaith .
>
> Os oes awydd arnoch i gael cyfieithiad o'r gair 'prifardd' awgrymaf
> 'maestro'!
>
> Richard Hughes
>
|