Ar dudalen 191 ei Ramadeg, dywed yr Athro Peter Wyn Thomas: "Ffurfiau sydd
ar drai yn ddaearyddol ac yn amseryddol yw ansoddeiriau benywaidd a lluosog.
Mewn arddulliau tra ffurfiol a thafodieithoedd ceidwadol y maent debycaf o
gael eu defnyddio". Mewn troednodyn, mae'n ychwanegu "Tafodieithoedd
gogleddol yw'r rhai tebycaf o fod yn geidwadol yn hyn o beth."
Mae hyn yn cadarnhau'r argraff sydd gen i fod pobl y De'n llawer llai tebyg
o arfer ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau, ac eithrio mewn clymau fel 'mwyar
duon' a 'storiau byrion'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 16, 2003 5:13 PM
Subject: white onions
Tybed oes rhywun yn gwybod a oes rheol / canllawiau ynghylch pryd i roi
ffurf luosog ansoddair? Mae Bruce yn nodi, er enghraifft, 'ffa duON' am
'black beans', ac, wrth gwrs, mae 'mwyar duon/cochion' etc yn gyffredin. Ai
yn ymwneud â bwyd mae hyn?
Oes unrhyw beth yn bod ar 'winwns gwyn', 'cawl winwns gwyn' etc? A fyddai
'gwynion' yn well ynteu ond yn ddewis arall?
Diolch am unrhyw gymorth.
Gwen
|