I ategu sylw Berwyn, fe fyddwn i hefyd yn dyfalu bod y system ariannu dan
sylw yn cael ei haddasu i roi ychwanegiad/cynnydd/uchraddiad (uplift) i'r
sawl sy'n derbyn yr arian oherwydd eu bod yn dioddef effeithiau'r prinder
yma.
Er enghraifft, a bwrw mai prinder poblogaeth sydd dan sylw, mae'n bosibl bod
arian ychwanegol ar gael yn y system ariannu (ar ffurf grant?) i wneud yn
iawn am y diffyg poblogaeth. Un enghraifft debyg o hyn yn y blynyddoedd a fu
oedd cynllun i helpu siopau mewn cymunedau gwledig, drwy ganiatáu iddyn nhw
dalu llai o drethi lleol: roedd cyfradd y gostyngiad yn cynyddu wrth i
lefel y boblogaeth ostwng (yn y gymuned lle roedd y siop). Neu o'r roi fel
arall, lleiaf yn y byd y byddai'r boblogaeth, mwyaf yn y byd y byddai'r
gostyngiad.
Ydy'r Jo yma felly "yn gweithio i gyfrifo faint o ychwanegiad i'w ganiatáu
yn y system ariannu i wneud yn iawn am y prinder"?
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, April 12, 2003 11:01 AM
Subject: Re: uplift
> 'dyrchafiad prinder' neu 'ychwanegiad prinder'? (Hyn ar sail chwilio yn
> Google - ond rwy'n dal heb yn gwbl siw^r 'mod i'n deall yr ystyr. Ai
> 'ychwanegiad oherwydd prinder/i wneud iawn am brinder' sydd yma?)
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Melanie Davies" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, April 11, 2003 4:23 PM
> Subject: uplift
>
>
> > A all rhywun gynnig term am uplift. Dyma'r frawddeg:
> >
> > Jo is also working on the sparsity uplift within the new funding system.
> >
> > Diolch am unrhyw awgrymiadau.
> >
> > Melanie
> >
>
|